William Rees (Gwilym Hiraethog)

Gwilym Hiraethog

Llenor Cymraeg a gweinidog oedd William Rees (8 Tachwedd 18028 Tachwedd 1883), neu Gwilym Hiraethog fel y'i adnabyddir.

Bywgraffiad

Fe'i ganwyd yn Chwibren Isaf, fferm wrth droed Mynydd Hiraethog ym mhlwyf Llansannan, yn yr hen Sir Ddinbych (Conwy heddiw). Er bod ei fam yn dod o dras uchel roedd ei deulu yn dlawd ac erbyn iddo briodi yn 22 mlwydd oed roedd yn was fferm. Dyna fu ei alwedigaeth tan iddo gael ei alw i weinidogaethu gyda'r Annibynwyr ym Mostyn yn 1831. Fe ymddeolodd o'r weinidogaeth yn 1875 a byw hyd at ei farwolaeth yng Nghaer.

Carreg goffa Gwilym Hiraethog ar gapel newydd yr Annibynwyr (1902), Llansannan

Er iddo gael ei fagu gyda'r Trefnyddion Calfinaidd fe ymunodd â'r Annibynwyr wedi iddynt gychwyn achos yn Llansannan yn 1828. Fe'i galwyd i Lôn Swan, Dinbych yn 1837, yna ymlaen i'r Tabernacl, Lerpwl (1843), yna i Salem yn yr un dref (1853) a diweddu ei yrfa fel gweinidog yn Grove Street, Lerpwl wedi iddo symud yno yn 1867. Bu'n pregethu yno nes iddo ymddeol ym 1875. Roedd ei frawd, Henry hefyd ymysg pregethwyr mwyaf blaengar y cyfnod.

Gwnaeth enw iddo'i hun fel pregethwr poblogaidd ac ynghyd â'i ddawn fel llenor, golygydd, gwleidydd a darlithydd fe'i enwyd gan Gwynfor Evans fel "...ffigur amlycaf trydydd chwarter y ganrif ddiwethaf pan oedd pregethwyr yn arwyr Cymru." Dywedir mai cyfraniad mwyaf Hiraethog i Gymru oedd sefydlu'r Amserau yn 1843. Yr Amserau oedd y newyddiadur Cymraeg cyntaf i lwyddo. Roedd Hiraethog ymysg cwmni da o Anghydffurfwyr radicalaidd, pobl megis S.R. Llanbrynmair, David Rees Llanelli a Ieuan Gwynedd – dywedir mai Hiraethog oedd y pennaf yn eu plith. Mynnai Hiraethog a'i gwmni o Annibynwyr radical daro'n erbyn y traddodiad pietistaidd a gadwai Gristnogion allan o'r byd politicaidd.

En otros idiomas