Gwyddor Seinegol Ryngwladol

  • siart swyddogol yr ipa ers 2005.

    system o nodiant seinegol yw'r wyddor seinegol ryngwladol (saesneg: international phonetic alphabet, ipa). mae'n seiliedig ar yr wyddor ladin, a dyfeisiwyd gan y gymdeithas seinegol ryngwladol (saesneg: international phonetic association) fel cynrychiolaeth safonol o seiniau iaith lafar. defnyddir yr ipa gan ieithyddion, patholegwyr a therapyddion lleferydd, athrawon ieithoedd tramor, cantorion, geiriadurwyr a chyfieithwyr.

    mae'r ipa wedi ei chynllunio i gynrychioli priodoleddau lleferydd sydd yn wahanredol yn yr iaith lafar yn unig, sef ffonemau, tonyddiaeth a gwahaniad geiriau a sillafau. er mwyn cynrychioli priodoleddau lleferydd ychwanegol megis rhincian dannedd, siarad yn floesg, a seiniau wedi'u gwneud â thaflod hollt, defnyddir set estynedig o symbolau a elwir yn ipa estynedig.

    ar hyn o bryd (2007), mae gan yr ipa 107 o lythrennau gwahanol a 56 o nodau acen a nodweddion mydryddol. yn achlysurol, ychwanegir, gwaredir neu addasir symbolau gan y gymdeithas seinegol ryngwladol.

  • yr wyddor
  • ffynonellau
  • cysylltiadau allanol

Siart swyddogol yr IPA ers 2005.

System o nodiant seinegol yw'r Wyddor Seinegol Ryngwladol (Saesneg: International Phonetic Alphabet, IPA). Mae'n seiliedig ar yr wyddor Ladin, a dyfeisiwyd gan y Gymdeithas Seinegol Ryngwladol (Saesneg: International Phonetic Association) fel cynrychiolaeth safonol o seiniau iaith lafar. Defnyddir yr IPA gan ieithyddion, patholegwyr a therapyddion lleferydd, athrawon ieithoedd tramor, cantorion, geiriadurwyr a chyfieithwyr.

Mae'r IPA wedi ei chynllunio i gynrychioli priodoleddau lleferydd sydd yn wahanredol yn yr iaith lafar yn unig, sef ffonemau, tonyddiaeth a gwahaniad geiriau a sillafau. Er mwyn cynrychioli priodoleddau lleferydd ychwanegol megis rhincian dannedd, siarad yn floesg, a seiniau wedi'u gwneud â thaflod hollt, defnyddir set estynedig o symbolau a elwir yn IPA Estynedig.

Ar hyn o bryd (2007), mae gan yr IPA 107 o lythrennau gwahanol a 56 o nodau acen a nodweddion mydryddol. Yn achlysurol, ychwanegir, gwaredir neu addasir symbolau gan y Gymdeithas Seinegol Ryngwladol.

En otros idiomas
беларуская (тарашкевіца)‎: Міжнародны фанэтычны альфабэт
Mìng-dĕ̤ng-ngṳ̄: Guók-cié Ĭng-biĕu
eesti: IPA
Nordfriisk: IPA
贛語: 國際音標
客家語/Hak-kâ-ngî: Koet-chi Yîm-phiêu
Kongo: API
Nouormand: API
srpskohrvatski / српскохрватски: Međunarodna fonetska abeceda
oʻzbekcha/ўзбекча: Xalqaro fonetik alifbo
吴语: 国际音标
中文: 國際音標
Bân-lâm-gú: Kok-chè Im-phiau
粵語: 國際音標