Gogledd Iwerddon

Baner Flag of Northern Ireland.svg
Northern Ireland
Tuaisceart Éireann
Norlin Airlann

Gogledd Iwerddon

Arwyddair: Quis separabit?
Anthem: Danny Boy
Map of Northern Ireland within the United Kingdom.svg
Ieithoedd swyddogol Saesneg, Gwyddeleg
(siaredir hefyd Sgoteg Wlster)
Prifddinas Belffast
Dinas fwyaf Belffast
Prif Weinidog y DU Theresa May
Prif Weinidog neb
Ysgrifennydd Gwladol James Brokenshire
Arwynebedd 14,130 km² (5,460 mill sg)
Poblogaeth
 - Cyfrifiad 2011
 - Amcangyfrif 2017
 - Dwysedd

1,810,863
1,868,700
122/km²
Arian breiniol Punt ( GBP) (£)
Cylchfa amser
- Haf
UTC
UTC +1
Nawddsant San Padrig

Rhanbarth o'r Deyrnas Unedig yw Gogledd Iwerddon ( Gwyddeleg: Tuaisceart Éireann, Saesneg: Northern Ireland; Sgoteg Wlster: Norlin Airlann), yng ngogledd-ddwyrain Iwerddon. Mae'n cynnwys chwech o 32 sir ynys Iwerddon - chwech o naw sir talaith Wledd neu Wlster. Mae iddi arwynebedd o 14,139 km² (5,459 milltir sgwâr), ac mae ganddi boblogaeth o 1,810,863 (Cyfrifiad 2011) (1,685,267, Cyfrifiad 2001). Belffast yw'r brifddinas.

Mae Gogledd Iwerddon yn cael ei llywodraethu gan Gynulliad Gogledd Iwerddon, yn Stormont, ac Ysgrifennydd Gwladol Gogledd Iwerddon sy'n atebol i lywodraeth San Steffan.

Fodd bynnag, hyd at 1800, roedd yr ynys gyfan (y Gogledd a'r De) yn un wlad - ' Teyrnas Iwerddon' - hyd nes i Loegr ei huno o dan Ddeddf Uno 1801 i'r hyn a alwyd yn ' Deyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon'. Wedi cread y Dalaith Rydd Wyddelig (Saorstat Eireann) ym 1922, allan o 26 o siroedd Iwerddon, parhaodd chwe sir y gogledd yn rhan o'r Deyrnas Unedig, a chafodd y wladwriaeth ei hail-enwi yn Deyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon ym 1927.

Yn ei gyfieithiad o un o ganeuon Tommy Makem, canodd Dafydd Iwan am y 'Pedwar Cae' (An Cheathrú Gort Glas). Gogledd Iwerddon ydyw'r pedwerydd cae - y cae sydd yn nwylo Lloegr, "ddaw eto yn rhydd medd hi."

Yr enw

Mae enw'r rhanbarth ei hun ac rhai enwau lleoedd o'i fewn yn bwnc dadleuol. Mae llawer yn dibynnu ar safbwyntiau gwleidyddol. Yr enghraifft enwocaf efallai yw dinas Derry/ Londonderry, gyda'r ffurf Derry (Saesneg) neu Doire/Doire Cholm Chille (Gwyddeleg) yn cael ei defnyddio gan genedlaetholwyr Gwyddelig a Londonderry gan yr Unoliaethwyr.

'Gogledd Iwerddon' yw'r enw swyddogol ond mae nifer o Unoliaethwyr yn a'u cefnogwyr yn dal i defnyddio'r enw Ulster (Ulaidh). Ar y llaw arall, mae cenedlaetholwyr a gweriniaethwyr yn tueddu i gyfeirio at y rhanbarth fel 'Y Gogledd' (The North/North of Ireland) neu'r 'Chwe Sir' (Six Counties.

Unoliaethwyr

  • Ulster (Ulaidh) yw'r enw hanesyddol am dalaith Wyddelig Wlster, gyda chwech o'i naw sir yn gorwedd yng Ngogledd Iwerddon. Mae cenedlaetholwyr yn gwrthod defnyddio'r enw i gyfeirio at Ogledd Iwerddon ond mae'r term "Ulster" yn cael ei defnyddio'n aml gan yr Unoliaethwyr a'r wasg Brydeinig i gyfeirio at Ogledd Iwerddon. Fe'i gwelir hefyd mewn enwau fel Radio Ulster, RUC, Ulster Unionist Party ac Ulster Volunteer Force (grwp paramilwrol).
  • Y Dalaith (The Province / An Chúige) yw'r enw hanesyddol am dalaith Wyddelig Wlster ond fe'i defnyddir gan Unoliaethwyr ac eraill fel term am Ogledd Iwerddon. Yn ôl canllawiau'r BBC, mae "the province" yn dderbyniol ond dydy "Ulster" ddim. Mae'n argymell peidio defnyddio'r gair "Prydeinig" ("British") i gyfeirio at y bobl ond yn hytrach i ddefnyddio'r term niwtral "pobl Gogledd Iwerddon" ("people of Northern Ireland", a'r term "tir mawr" "mainland" wrth gyfeirio at Brydain Fawr mewn perthynas â Gogledd Iwerddon [1] Nid wy'r termau hyn yn dderbyniol gan y gymuned weriniaethol.

Cenedlaetholwyr/Gweriniaethwyr

Defnyddir sawl term gan weriniaethwyr a chenedlaetholwyr i gyfeirio at Ogledd Iwerddon:

  • North of Ireland (Tuaisceart na hÉireann) - term sydd ddim yn cyfieithu i'r Gymraeg yn iawn ac sy'n pwysleisio fod y rhanbarth yn rhan o Iwerddon yn hytrach na'r DU.
  • Gogledd-ddwyrain Iwerddon (North-East Ireland / Oirthuaisceart Éireann). Amrywiad ar yr uchod, llawer llai cyffredin.
  • Y Chwe Sir (The Six Counties / na Sé Chontae) - term a ddefnyddir gan weriniaethwyr, e.e. Sinn Féin. Cyfeirir at Weriniaeth Iwerddon fel 'y 26 Sir' (Twenty-Six Counties) [2] Dadleuir fod defnyddio enw swyddogol y rhanbarth yn gyfystyr â derbyn ei fod yn perthyn i'r DU.
  • The Occupied Six Counties. [3]
  • British-Occupied Ireland. Fel Occupied Six Counties, defnyddir hyn gan weriniaethwyr sy'n gwrthwynebu Cytundeb Dydd Gwener y Groglith (Good Friday Agrrement). [4]
  • Fourth Green Field (An Cheathrú Gort Glas). O'r gân Four Green Fields gan Tommy Makem.
En otros idiomas
Afrikaans: Noord-Ierland
Alemannisch: Nordirland
azərbaycanca: Şimali İrlandiya
башҡортса: Төньяҡ Ирландия
Boarisch: Noadirland
беларуская (тарашкевіца)‎: Паўночная Ірляндыя
brezhoneg: Norzhiwerzhon
bosanski: Sjeverna Irska
Mìng-dĕ̤ng-ngṳ̄: Báe̤k Ireland
čeština: Severní Irsko
dansk: Nordirland
Deutsch: Nordirland
dolnoserbski: Pódpołnocna Irska
Esperanto: Nord-Irlando
euskara: Ipar Irlanda
estremeñu: Irlanda del Norti
føroyskt: Norðurírland
français: Irlande du Nord
Nordfriisk: Nuurdirlun
Gàidhlig: Èirinn a Tuath
गोंयची कोंकणी / Gõychi Konknni: उत्तर आयर्लंड
客家語/Hak-kâ-ngî: Pet Ireland
hrvatski: Sjeverna Irska
hornjoserbsce: Sewjerna Irska
Kreyòl ayisyen: Ilann dinò
interlingua: Irlanda del Nord
Bahasa Indonesia: Irlandia Utara
Interlingue: Nord-Irland
íslenska: Norður-Írland
Basa Jawa: Irlandia Lor
ភាសាខ្មែរ: អៀរឡង់ខាងជើង
한국어: 북아일랜드
kernowek: Wordhen Gledh
Lëtzebuergesch: Nordirland
Limburgs: Noord-Ierland
lietuvių: Šiaurės Airija
latviešu: Ziemeļīrija
македонски: Северна Ирска
Bahasa Melayu: Ireland Utara
مازِرونی: شمالی ایرلند
Napulitano: Irlanna d'o Nord
Nedersaksies: Noord-Ierlaand
Nederlands: Noord-Ierland
norsk nynorsk: Nord-Irland
Nouormand: Irlande du Nord
Piemontèis: Irlanda dël Nòrd
português: Irlanda do Norte
Runa Simi: Chinchay Ilanda
rumantsch: Irlanda dal Nord
română: Irlanda de Nord
sicilianu: Irlanna dû Nord
srpskohrvatski / српскохрватски: Sjeverna Irska
Simple English: Northern Ireland
slovenčina: Severné Írsko
slovenščina: Severna Irska
Soomaaliga: Waqooyiga Ayrland
српски / srpski: Северна Ирска
Seeltersk: Noudirlound
Basa Sunda: Irlandia Kalér
svenska: Nordirland
Tok Pisin: Noten Aialan
Türkçe: Kuzey İrlanda
татарча/tatarça: Төньяк Ирландия
українська: Північна Ірландія
oʻzbekcha/ўзбекча: Shimoliy Irlandiya
Tiếng Việt: Bắc Ireland
Zeêuws: Noord-Ierland
中文: 北爱尔兰
Bân-lâm-gú: Pak Ài-ní-lân
粵語: 北愛爾蘭