Dinas Efrog Newydd |
---|
|
---|
|
---|
Lleoliad o fewn Talaith Efrog Newydd |
---|
Gwlad | Unol Daleithiau America |
---|
Ardal | Efrog Newydd |
---|
Llywodraeth |
---|
Awdurdod Rhanbarthol | Awdurdod Dinas Efrog Newydd |
---|
Maer | Bill de Blasio |
---|
Pencadlys | New York City Hall |
---|
Daearyddiaeth |
---|
Arwynebedd | 1,214.4 km² |
---|
Uchder | 10 m |
---|
Demograffeg |
---|
Poblogaeth Cyfrifiad | 8,336,697 (Cyfrifiad 2012) |
---|
Dwysedd Poblogaeth | 10,482 /km2 |
---|
Metro | 18,815,988 |
---|
Gwybodaeth Bellach |
---|
Cylchfa Amser | EST (UTC-5) |
---|
Cod Post | 212, 718, 917, 347, 646 |
---|
Gwefan | http://www.nyc.gov |
---|
Dinas yn Nhalaith Efrog Newydd yw Dinas Efrog Newydd (Saesneg: New York City). Hi yw'r ddinas fwyaf poblog yn Unol Daleithiau America tra bod ardal fetropolitanaidd Efrog Newydd ymysg ardaloedd mwyaf poblog y byd. Dinas ryngwladol flaenllaw ydyw, gyda dylanwad sylweddol yn fyd-eang ar fasnach, economi, diwylliant, ffasiwn ac adloniant. Yma hefyd ceir pencadlys y Cenhedloedd Unedig, ac felly mae'n ganolfan bwysig o safbwynt materion rhyngwladol.
Fe'i lleolir ar arfordir Gogledd-ddwyreiniol yr Unol Daleithiau ar lannau Môr Iwerydd. Mae yno bum mwrdeisdref: Y Bronx, Brooklyn, Manhattan, Queens, ac Ynys Staten. Mae yno boblogaeth amcangyfrifol o 8,274,527 o bobl mewn ardal ychydig ynllai na 305 milltir sgwâr (790 km²).[1] Poblogaeth amcangyfrifol ardal fetropolitanaidd Efrog newydd yw 18,815,988 o bobl dros ardal o 6,720 milltir sgwâr (17,400 km²).[2]
Mae Efrog Newydd fwyaf adnabyddus ymysg dinasoedd yr Unol Daleithiau am ei threfnidaeth 24 awr, ac am ei dwysedd a'r amrywiaeth o bobl sy'n trigo yno. Yn 2005, roedd bron 170 o ieithoedd yn cael eu siarad yn y ddinas a ganwyd 36% o'i phoblogaeth y tu allan i'r Unol Daleithiau. Weithiau cyfeirir at y ddinas fel "Y Ddinas sydd Byth yn Cysgu", tra bod ei ffugenwau eraill yn cynnwys "Gotham" a'r "Big Apple".
Sefydlwyd Efrog Newydd fel canolfan fasnachu gan y Dutch East India Company ym 1624. Galwyd y lleoliad newydd yn Amsterdam Newydd tan 1664 pan ddaeth y drefedigaeth o dan reolaeth Brydeinig. Bu Efrog Newydd yn brifddinas yr Unol Daleithiau o 1785 tan 1790, ac ers hynny dyma yw dinas fwyaf y genedl ers 1790.
Erbyn heddiw, mae gan y ddinas nifer o gymdogaethau a chofadeiladau byd enwog. Cyfarchodd y Cerflun Rhyddid filiynau o fewnlifwyr wrth iddynt ddod i'r Amerig ar ddiwedd y 19g a dechrau'r 20g. Mae Wall St. ym Manhattan Isaf wedi bod yn ganolfan ariannol byd-eang ers yr Ail Ryfel Byd ac yno y lleolir Cyfnewidfa Stoc Efrog Newydd. Mae'r ddinas hefyd wedi bod yn gartref i nifer o adeiladau talaf y byd, gan gynnwys Adeilad Empire State a'r ddau dŵr yng Nghanolfan Fasnach y Byd.